Lleoliad:
Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Llun, 14 Medi 2020
Amser:
09.00 -
12.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/6455
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Nick Ramsay AS (Cadeirydd) Gareth Bennett AS Angela Burns AS Vikki Howells AS Delyth Jewell AS Rhianon Passmore AS Jenny Rathbone AS |
Tystion: |
Andrew Slade, Llywodraeth Cymru Paul Griffiths, Llywodraeth Cymru Marcella Maxwell, Llywodraeth Cymru Dean Medcraft, Llywodraeth Cymru
|
Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton – Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Mike Usher |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Tom Lewis-White (Ail Glerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1 Ymchwiliad i Lesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: Papur cwmpasu
1.1 Trafododd y Pwyllgor bapur cwmpasu ar gyfer yr ymchwiliad a chytunwyd ar sut y dylai'r ymchwiliad fynd yn ei flaen.
2 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
2.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.2 Croesawodd y Cadeirydd Angela Burns AS i'r Pwyllgor, yn dilyn ei hethol ar 5 Awst 2020.
3 Papur(au) i’w nodi
3.1 Cafodd y papurau eu nodi.
3a Ymchwiliad i COVID-19 a'i effaith ar faterion sy'n gysylltiedig â chylch gwaith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (27 Awst 2020)
3b Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014: Llythyr oddi wrth Lywodraeth Cymru (28 Awst 2020)
4 Caffael Cyhoeddus: Sesiwn dystiolaeth gyda Llywodraeth Cymru
4.1 Holwyd y tystion gan Aelodau ynghylch Caffael Cyhoeddus.
4.3 Cytunodd Andrew Slade i anfon gwybodaeth ychwanegol ynghylch nifer o’r materion a godwyd.
5 Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn:
5.1 Derbyniwyd y cynnig.
6 Caffael Cyhoeddus: Trafod y dystiolaeth a ddaeth i law
6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a ddaeth i law, a bydd y Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru i roi barn y Pwyllgor.
7 Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Ystyried yr ymateb gan Lywodraeth Cymru
7.1 Trafododd y Pwyllgor ymateb Llywodraeth Cymru.
7.2 Cytunwyd y byddai'r Cadeirydd yn ymateb i'r Ysgrifennydd Parhaol ynglŷn â nifer o faterion ac y byddai’r gweddill yn cael sylw yn y sesiwn dystiolaeth sydd i ddod ar graffu cyfrifon 2019-20.